Mary ElizabethWILLIAMSDymuna'r genod, yn ogystal a theulu y diweddar Mary Elizabeth Williams, Cae Mawr, Llanfechell ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynwyd atynt ar golli Mam, Nain, Hen Nain 'Wagan' a Hen Hen Nain Annwyl. Bu'r llu o gardiau, galwadau ffon a'r ymweliadau yn gysur mawr i ni i gyd. Diolch i Llinos a'r tim Nyrsio Cymunedol am fod mor ffyddlon. Diolch yn fawr i'r Parchedig Elfryn Jones a fu'n gyfrifol am y gwasanaeth angladdol. Bydd y cyfraniadau hael a dderbyniwyd yn mynd tuag at Apel Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch hefyd i'r ymgymerwyr, Gareth Owen a'r staff i gyd o Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali am eu trefniadau trylwyr a gofalus. Diolch o galon i pawb.
Keep me informed of updates